Dysgwch am bopeth

Uchafbwyntiau... crefft maes a chwilota, theatr awyr agored, cyrsiau bywyd gwyllt a garddio

A ydych chi eisiau diwrnod allan gyda rhywbeth mwy yn perthyn iddo? Mae cyfoeth o wybodaeth ddiddorol i’w chasglu yn ein gerddi a’n parciau, gyda dramâu, cyrsiau penwythnos a sgyrsiau a theithiau tywysedig.

Efallai y gwnewch fwynhau’r rhain hefyd...

Parc Cwmdoncyn

Efallai ei fod yn ymddangos fel parc cyffredin mewn maestref ddymunol yn Abertawe, ond cafodd Dylan Thomas, bardd modern mwyaf Cymru, ei ysbrydoli gan y parc hwn.

Darganfod Hanes

Gallwch olrhain gorffennol cymysg De a Gorllewin Cymru, o adfeilion canoloesol i rym yr oes ddiwydiannol – mae’r etifeddiaeth sy’n parhau yn gymysgedd hynaws o fwynhad.

Maenordy Scolton

Mwynhewch y profiad o deithio’n ôl i oes fwy hamddenol Fictoria, o fewn y tŷ cain yn ogystal â thu allan yn y parcdiroedd eang.

Dysgwch fwy am yr hyn rydych yn ei weld

Eisiau diwrnod allan sy’n cynnig rhywfaint mwy? Mae gerddi a pharciau hygyrch De a Gorllewin Cymru’n dangos y ffordd i chi. Gwrandewch ar farddoniaeth felodig Dylan Thomas ym Mharc Cwmdoncyn ar gyrion Abertawe, sy’n fan lle bu bardd enwocaf Cymru’n chwarae fel plentyn ifanc ac a’i ysbrydolodd cymaint.
 
Neu cymerwch gam yn ôl mewn amser a phrofi bywyd i fyny’r grisiau ac ar y llawr gwaelod teulu Fictoraidd ym Maenordy Scolton yn Sir Benfro. Gallwch edmygu’r tŷ pinafalau yng ngardd furiog ddatblygol Scolton, a darganfod sut gellir tyfu ffrwythau trofannol yn ystod y gaeaf yng Nghymru. Gall plant ysgol fynd ar daith arbennig ‘Archwilio Coetiroedd’, sy’n rhoi iddynt brofiad ymarferol o fywyd gwyllt a phlanhigion yn eu cynefin naturiol. 
 
Wrth i chi gamu o’ch car yn y maes parcio newydd yng Nghoed Dyffryn Penllergaer, ar gyrion Abertawe, edrychwch draw at yr adeilad cromennog y tu cefn iddo. Dyma arsyllfa o’r 19eg ganrif sy’n parhau i weithio, a dyma lle cymerwyd y ffotograffau cyntaf oll o’r lleuad gan ffotograffydd amatur brwdfrydig, John Dillwyn Llewelyn, sef perchennog y tŷ gwreiddiol sydd wedi’i ddymchwel erbyn hyn. Caiff yr arsyllfa ei chynnal gan seryddwyr lleol.

Cofrestrwch ar gyfer cwrs garddio yn Aberglasne, Llangathen, sydd erbyn hyn wedi derbyn cymeradwyaeth gan y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol fel is-ganolfan, neu gallech gofrestru ar gyfer cwrs y Cyngor Astudiaethau Maes yng Nghanolfan Ddarganfod Margam. Mae cyrsiau ar gyfer pob aelod o’r teulu, ac mae’r pynciau’n amrywio o adar ac ystlumod i chwilod a glöynnod byw, a daperir llety arloesol ecogyfeillgar yn y ganolfan.
 
Mae gan yr awyr agored ei apêl bob amser – ond sawl un ohonom fyddai’n gwybod sut i oroesi mewn gwirionedd? Ym Mryngarw ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gallwch ddysgu crefftau maes gan geidwaid y parc, a fydd yn dysgu popeth i chi o adeiladu lloches i ddod o hyd i’r deunyddiau cywir – sef nodwyddau pinwydd mewn gwirionedd – i wneud paned o de. Dyna beth yw achub bywyd!