Gerddi Aberglasne
Mae popeth a dyfir yn yr ardd lysiau yn mynd yn syth i’r caffi ar ôl cael ei gynaeafu, ac mae’r llysiau na chânt eu defnyddio yno, yn cael eu gwerthu yn y siop.
Tŷ a Pharc Gwledig Bryngarw
Ewch am dro ar eich beic. Mae oddeutu 20 milltir o lwybrau beicio trwy a thu hwnt i'r 113 erw ym Mharc Gwledig Bryngarw sy'n cysylltu â Chwm Garw a Bro Ogwr gerllaw.
Parc Cwmdoncyn
Mae cerflun pensil tal iawn ym Mharc Cwmdoncyn yn deyrnged i ddawn y bardd o Gymru, Dylan Thomas, ond allwch chi weld o beth y mae wedi cael ei gerfio'n grefftus iawn?
Parc Gwledig Margam
Yr Orendy adferedig 100 metr o hyd ym Margam yw'r hiraf ym Mhrydain. Cadwch lygad allan hefyd am y rhes o benglogau ar y tu blaen - maent yno i'w warchod rhag ysbrydion drwg.
Coed Cwm Penllergaer
Tynnwyd y ffotograff cyntaf o'r lleuad ym 1857 o'r Arsyllfa ym Mhenllergaer. Gallwch ddarganfod y gerddi 'coll' hudol wrth iddynt gael eu datgelu a'u hadfer yn araf.
Maenordy Scolton
Ydych chi eisiau cymryd cipolwg y tu mewn i gwch gwenyn? Gallwch wneud hynny nawr gyda chamera sy'n ysbïo ar y cwch gwenyn ym Maenordy Scolton, yna gallwch fynd i'r 'gegin fêl' i weld y cynhaeaf euraidd.
Gardd Coetir Colby
Crwydrwch drwy'r ddôl blodau gwyllt llawn tegeirianau yng Ngardd Coetir Colby, yna byddwch ond tafliad carreg o draeth bach ysblennydd Amroth.

Dyddiau allan...

Pŵer blodau

O fylbiau bach i goed gorau, profwch wledd o flodau drwy gydol y flwyddyn

Darllen mwy

Dod ar draws bywyd gwyllt

Rhyfeddwch at yr hyn sy’n hedfan, mwmian, gwibio, snwffian a nofio o’ch cwmpas

Darllen mwy

Chwarae ac antur mewn coetir

Mae meysydd chwarae naturiol yn cynnig hwyl fywiog yn yr awyr agored – i bob oedran

Darllen mwy

Darganfod hanes

Dysgwch am y gorffennol sydd wedi’i wreiddio’n hudolus yn ein tirweddau ac adeiladau

Darllen mwy

Rhyfeddodau’r dŵr

Cewch eich adnewyddu gan ein llynnoedd, pyllau, afonydd, nentydd a rhaeadrau

Darllen mwy

Dysgwch bopeth am y peth

Dewch i wybod y straeon y tu ôl i’r golygfeydd a welwch heddiw

Darllen mwy

Cynllunio eich taith

Mae ein saith parc, gardd a choetir yn ymestyn ar hyd morliniau de a gorllewin Cymru, ac mae pob un ohonynt yn hygyrch iawn o brif ffyrdd a nifer ohonynt yn daith fer yn unig o'r M4. Cliciwch ar 'gweld map' i ddarganfod y llwybr gorau ar eich cyfer.

Gweld map