Gardd Coetir Colby
Natur a bywyd gwyllt yw popeth yn yr ardd goediog, ddiarffordd hon mewn dyffryn yn Sir Benfro – ac mae natur yn dychwelyd y ffafr drwy ffynnu.
Efallai y gwnewch fwynhau’r rhain hefyd...
Tŷ a Pharc Gwledig Bryngarw
Mwynhewch yr awyr agored ar hyd llwybrau coetir. Gallwch gerdded am filltiroedd yma, ychydig eiliadau o’r M4, drwy goetir sy’n llawn bywyd gwyllt a thawelwch.
Pŵer blodau
O fylbiau’r gwanwyn i rosod afreolus yr haf, dail yr hydref fel gemau o liw, a choed cadarn yn y gaeaf – gallwch fwynhau pleserau drwy gydol y flwyddyn yng ngerddi dynamig De Cymru.
Chwarae ac antur mewn coetir
Ewch yn wyllt yn y coed – ewch ymlaen, gwyddoch eich bod wir eisiau gwneud hynny
Diwrnodau allan i deuluoedd yw’r brif flaenoriaeth yng Ngardd Coetir Colby yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sydd wedi’i lleoli mewn dyffryn tawel yn Sir Benfro. Bydd rhieni’n mwynhau archwilio’r ardd furiog sy’n llawn blodau ac sydd â gasibo wedi’i baentio â ffresgo; neu’n mynd am dro drwy’r coetir ar hyd llwybrau a ddefnyddiwyd gan lowyr i gyrraedd y pyllau glo carreg sy’n britho’r bryn. Bydd y sawl sydd â llygaid craff yn gweld setiau moch daear a chnocellod y coed. Mae’r olygfa o’r brig yn ogoneddus ac mae llwybrau’n mynd â chi’r holl ffordd i lawr i’r traeth.
Gall plant ddod o hyd i antur wrth redeg drwy’r glaswellt, adeiladu ffau ymysg y llwyni a thaflu eu hun ar draws nentydd ar raff. Anogir pawb i ymuno yn yr hwyl, o blannu bylbiau i wasgaru hadau blodau gwyllt, o chwilio am ddyfrgwn a llygod y dŵr i ddringo coed. Ac ar ddiwedd diwrnod prysur, gallwch ymlacio yn y caffi eco clyd sydd â thân coed a llyfrgell lle gallwch ddarllen ac ysgrifennu am yr hyn fuoch yn ei wneud a dysgu mwy am fywyd gwyllt.
Diwrnodau Allan i Deuluoedd
Bydd rhieni’n mwynhau archwilio’r ardd furiog gyda gasibo wedi’i addurno â ffresgo, neu gerdded drwy’r coetir ar hyd llwybrau a ddefnyddiwyd gan lowyr i gyrraedd y pyllau glo carreg sy’n britho’r bryn – chwiliwch am setiau moch daear a chnocellod y coed ar hyd y ffordd. A gall plant redeg drwy’r glaswellt, adeiladu ffau ymysg y llwyni a thaflu eu hun ar draws nentydd ar raff. Yng Ngardd Coetir Colby yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, diwrnodau allan i deuluoedd yw’r brif flaenoriaeth. Anogir pawb i ymuno yn yr hwyl – o blannu bylbiau i wasgaru hadau blodau gwyllt. Mae gan y caffi eco dân coed a llyfrgell lle gallwch ddarllen ac ysgrifennu am yr hyn fuoch yn ei wneud a dysgu mwy am fywyd gwyllt.
Amseroedd Caled
Yn nyddiau Fictoria, roedd llawer o fwyngloddio am lo carreg yn ardal Saundersfoot. Roedd llawer o alw amdano, ac ni fyddai’r Frenhines Fictoria’n defnyddio unrhyw lo arall fel tanwydd ar ei llong frenhinol. Roedd y pyllau glo’n rhoi gwaith i deuluoedd lleol, ond oherwydd bod y siafftiau’n fach, gosodwyd harneisiau ar blant mor ifanc ag wyth mlwydd oed, ac fe’u defnyddiwyd yn lle merlod i dynnu tryciau drwy’r twneli. Gallwch weld y llwybrau ar y llechweddau a ddefnyddiwyd gan deuluoedd i gerdded i’r gwaith, ac mae llawer o’r llwyni llawryf llydan yn cuddio mynedfa i bwll glo carreg.
Calon Wyllt
Pwy sydd eisiau bod yn dditectif natur? Gallwch chwarae gemau diddiwedd o “Mi Welaf I Â’m Llygad Bach I” wrth wylio adar y coetir o amgylch Colby. Neu gallwch sefyll ger y nant ac edrych am fronwen y dŵr yn siglo i fyny ac i lawr ar graig - ac yn plymio o dan y dŵr am hyd at 30 eiliad i ddal pysgod - tra bod siglennod llwyd yn gwibio ar ôl pryfed. Mae’r cylchdro tymhorol yn gweld grifft brogaod a llyffantod yn y nant a’r glaswelltir, a gloÿnnod byw megis gleision cyffredin ar y dolydd llaith. Mae teithiau cerdded i wylio ystlumod ar noson o haf yn bleser arall, pan ddaw rhai o ystlumod prinnaf y DU, gan gynnwys ystlumod pedol lleiaf, allan o adeiladau Colby a siafftiau mwyngloddiau segur i fwydo a chwilota. Hefyd mae clwyd wych lle mae ystlumod lleiaf soprano yn rhoi genedigaeth: cadwch eich llygaid ar agor wrth iddynt wibio drwy’r awyr gan ddal a bwyta pryfed wrth iddynt hedfan.
Oriau Agor
Trwy gydol y flwyddyn (ac eithrio 24 i 31 Rhagfyr): 10am–5pm (3pm o 17 Tachwedd)
Ystafell de: 5 Ebrill i 2 Tachwedd, 10am–4.30pm
Mynediad
£5.40, plant £2.70
Parcio
Am ddim
Manylion cyswllt
Gardd Coetir Colby
Amroth
Arberth
Sir Benfro
SA67 8PP
01834 811885
www.nationaltrust.org.uk/colby-woodland-garden